Gosod cerfluniau pum menyw i ddathlu merched hanesyddol Cymru

Merched drwy'r oesoedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerfluniau wedi'u gosod ar feinciau er mwyn i ymwelwyr eistedd wrth eu hymyl

  • Cyhoeddwyd

Mae pum cerflun o fenywod sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru wedi ymddangos yn Sgwâr Canolog Caerdydd fel rhan o waith celf newydd.

Bydd y cerfluniau i'w gweld yng nghanol y ddinas rhwng 27 a 29 Gorffennaf, cyn i rai ohonyn nhw deithio i safleoedd hanesyddol Cadw ledled Cymru.

Mae'r pum cerflun yn cynrychioli Branwen ferch Llŷr, Margaret Thomas, Gwladys ferch Dafydd Gam, Gwenllian ferch Gruffudd a Santes Dwynwen.

Yn ôl Cadw, bwriad y gwaith, Merched Drwy'r Oesoedd, dolen allanol, yw annog pobl i ddysgu mwy am gyfraniad menywod at hanes a diwylliant Cymru.

Mae'r prosiect wedi'i gomisiynu gan Cadw a'i greu gan y cwmni o Gaerdydd, See What We Can Make.

Mae'r cerfluniau wedi'u gosod ar feinciau er mwyn i ymwelwyr eistedd wrth eu hymyl, tynnu lluniau a dysgu rhagor am eu straeon.

Yn ôl Cadw, mae gan bob un o'r pum ffigwr gysylltiad ag un o'u safleoedd ledled Cymru lle gall ymwelwyr ddysgu mwy am eu straeon a'u cyfraniad at hanes Cymru.

Ar ôl gadael Caerdydd, bydd dau o'r cerfluniau'n symud i Gastell Biwmares rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst, cyn teithio ymlaen i'r safleoedd Cadw sy'n gysylltiedig â phob un o'r menywod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.