'Ronaldo y byd cneifio' nôl yn cystadlu yng Nghorwen

- Cyhoeddwyd
Mae pencampwriaethau Cneifio Corwen Shears yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr amaethyddol, gyda'r cneifwyr gorau o Gymru a thu hwnt yn dod i gystadlu yn Sir Ddinbych.
Un o'r rhai fydd yn yno ar 24-25 Gorffennaf eleni fydd Gwion Lloyd Evans, sy'n cael ei gydnabod fel un o gneifwyr gorau'r byd.
Cafodd Gwion ei goroni'n bencampwr byd yn 2023 ac mae wedi ennill Cneifio Corwen Shears ddwywaith.
Daw Gwion o Bylchau, ger Dinbych, ac yn 36 mlwydd oed mae'n cael ei adnabod fel 'Ronaldo y byd cneifio defaid' - am ei allu a'i hirhoedledd.
'Gemau Olympaidd cneifio'
Gall Gwion gneifio dafad mewn llai na 40 eiliad ac oen mewn dim ond 13 eiliad. Mae hefyd wedi cneifio 20 dafad mewn 14 munud a 56 eiliad ac unwaith fe gneifiodd 650 dafad mewn diwrnod.
Gorffennodd yn bumed yng nghystadleuaeth Golden Shears yn Seland Newydd eleni ac mae disgwyl iddo fod yn un o'r atyniadau mwyaf ym mhencampwriaethau Cneifio Corwen Shears.
"Mae'r Golden Shears yn cyfateb i'r Gemau Olympaidd," meddai Gwion.
"Dydi o ddim yn ymwneud â chyflymder oherwydd mi fedrwch chi ennill pwyntiau am lendid ac mae'n rhaid i chi fod yn gorfforol ffit i ddal y defaid yn gadarn a chael y stamina i weithio trwy'r ddiadell."

Gwion yn dathlu ei fuddugoliaeth yn mhencampwriaethau'r byd
Cneifio yn y gwaed
Cafodd Cneifio Corwen Shears ei sefydlu yn 1989 ac fe fydd miloedd yn heidio i'r pencampwriaethau y penwythnos yma, gan ei fod yn un o'r mwyaf o'i fath yn ynysoedd Prydain.
Mae gan deulu Gwion berthynas agos efo'r byd cneifio - dechreuodd Gwion gneifio yn 12 oed gyda'i dad a'i frawd, Gareth, sydd ei hun wedi hawlio teitl Pencampwr Cneifio Cymru.
Cystadlodd Gwion yn Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf yn 14 oed, gan fynd ymlaen i deithio i Seland Newydd a Norwy i gneifio, gan ddysgu gan gneifwyr arbenigol eraill.
"Yn Seland Newydd mae'r defaid yn fwy gyda mwy o wlân ac yn aml mae siediau cneifio yno wedi'u gosod efo peiriannau yn barod ac yn Norwy mae'r defaid hyd yn oed yn fwy. Roedd o'n brofiad gwych," meddai Gwion.

Gyda'r tlysau ym Mhencampwriaethau'r Byd
Yn ôl Dafydd Jones, aelod o bwyllgor trefnu Cneifio Corwen Shears, mae'n edrych yn debyg mai dyma fydd un o'r digwyddiadau gorau maent wedi'u llwyfannu erioed.
"Mae trefnu digwyddiad mor fawr â Cneifio Corwen Shears yn cymryd llawer o amser ac mae angen noddwyr.
"Rydym yn ffodus iawn i gael busnes cefnogol iawn fel Ifor Williams Trailers ar garreg ein drws."
Ychwanegodd yn ogystal â chefnogaeth ariannol, mae'r cwmni treilars wedi gwneud byrddau metel arbennig ar gyfer y digwyddiad.
"Mae'r rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer casglu a rholio'r gwlân. Rydym yn gobeithio y bydd y cwmni'n gallu cynhyrchu offer arall ar gyfer y digwyddiad yn y dyfodol," meddai.

Gwion yn sefyll ar y chwith. Mae'r Cneifio Corwen Shears yn cael ei gynnal ar Ystâd Rhug ger Corwen ar 24-25 Gorffennaf, gydag Ifor Williams Trailers yn noddi'r digwyddiad unwaith eto
Mae Cneifio Corwen Shears yn cael ei drefnu gan bwyllgor o wirfoddolwyr, gyda phob un yn dod o wahanol gefndiroedd yn y diwydiant cneifio.
Yn ystod y digwyddiad deuddydd bydd hyd at 100 o wirfoddolwyr yn sicrhau bod y cystadlaethau yn rhedeg yn esmwyth, gyda dros 2,500 o ddefaid hefyd yn bresennol ar gyfer y cneifio.
Ychwanegodd Dafydd Jones: "Mae pencampwriaethau cneifio defaid yn profi pa mor gyflym a thaclus y gall cneifiwr gael gwared ar gnu. Mae beirniaid yn graddio cystadleuwyr yn ôl amser ac ansawdd.
"Mae gennym chwe chystadleuaeth - Cneifio i Ddynion, Cneifio i Ferched a Chneifio Iau, Trin Gwlân a Chneifio Llafn i gyd wedi'u rhannu'n adrannau dechreuwyr, canolradd ac agored, yn ogystal â Phencampwriaeth Cymru.
"Mae'r cystadlu yn frwd ond bob amser yn gyfeillgar."
Gyda'r gymhariaeth wedi ei wneud dros y blynyddoedd rhwng Gwion a Cristiano Ronaldo, y gobaith ydy y bydd pencampwriaethau Cneifio Corwen yn fwy llewyrchus i Gwion nag oedd ymdrechion Portiwgal yng Nghwpan y Byd eleni.

Cristiano Ronaldo wedi'r golled i Sbaen yn Rownd yr 16 olaf yng Nghwpan y Byd 2026 ar 6 Gorffennaf
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd28 Ionawr
