Diwrnod o dorri recordiau i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad

Y tim ras gyfnewidFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gyda thrydydd diwrnod Gemau'r Gymanwlad bellach yn ei anterth, mae tîm Cymru eisoes wedi gosod eu marc yn Glasgow.

Gydag Ela Letton-Jones yn cipio'r fedal gyntaf i Gymru nos Wener, cafwyd llwyddiant pellach ddydd Sadwrn.

Fe enillodd Rhys Darby y fedal efydd yn y ras S12 200m dull rhydd i ddynion gydag amser o 01:56:24 - sy'n torri record Cymru yn y ras honno.

Fe wnaeth y cyffro barhau yn y pwll wrth i'r tîm ras gyfnewid cymysg 4x100m dull rhydd gipio'r fedal efydd hefyd.

Roedd y ras hon yn un i'w chofio, gyda Matt Richards a Dan Jones yn cychwyn yn gryf, yna fe lwyddodd Rebecca Sutton i gadw'r momentwm, cyn i'r ferch 17 oed, Theodora Taylor orffen y ras gyfnewid yn gadarn.

Fe lwyddodd y criw i dorri record Cymru yn y ras honno hefyd.

Rhys DarbeyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma dro cyntaf Rhys Darbey yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad

Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod llawn o dorri recordiau i Gymru wrth i dîm pêl-fasged cadair olwyn Cymru gystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau.

Draw yn yr arena gymnasteg, a cholli allan ar safle ar y podiwm o drwch blewyn oedd hanes tîm merched Cymru gan orffen yn bedwerydd.

Er hyn, bydd Ruby Evans ac Emily Roper yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol unigol y merched ddydd Sul.

A bydd Elliot Vernon ac Alex Nisoveanu yn cystadlu yn rownd derfynol unigol y bechgyn.

Mae'r tîm yn parhau'n brysur ddydd Sul gyda gêm bêl-rwyd, bowls, gymnasteg artistig, codi pwysau, bocsio a nofio yn mynd â'u sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig