Criwiau'n parhau ar safle tân mawr mewn iard sgrap

Cafodd criwiau eu galw i'r digwyddiad yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Roedd 75 o weithwyr y gwasanaeth tân yn ceisio diffodd fflamau mewn iard sgrap yn y gogledd ddwyrain dros y penwythnos.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn Nhalacre yn Sir y Fflint ddydd Sul.
Mae pump o beiriannau tân yn parhau i geisio diffodd y tân fore Llun, ac mae'r gwasanaeth yn parhau i annog pobl i osgoi'r ardal a chadw'r ffyrdd yn glir er mwyn caniatáu i gerbydau brys gael mynediad.
Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un sy'n gallu gweld neu arogli mwg gadw ffenestri a drysau ar gau, a diffodd unrhyw systemau aerdymheru neu awyru sy'n tynnu aer i mewn i eiddo.
Dywedodd Jody McEachern o'r Gwasanaeth Tân: "Er eich diogelwch, os gwelwch yn dda 'newch chi osgoi'r ardal a chadwch y ffyrdd yn glir i alluogi cerbydau brys i gael mynediad.
"Os gallwch weld neu arogli mwg, cadwch eich ffenestri a'ch drysau ar gau a diffoddwch unrhyw systemau aerdymheru neu awyru sy'n tynnu aer i mewn i'ch eiddo."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud bod swyddogion wedi bod ar safle'r "tân mawr" ers dydd Sul ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau ar yr amgylchedd.
Yn gynharach, dywedodd CNC fod y "dŵr sy'n yn cael ei ddefnyddio i daclo'r tân yn cael ei gyfyngu i'r safle er mwyn amddiffyn yr Afon Dyfrdwy".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.