'Gallu bod yn unig i ferched cefn gwlad' - llysgennad y Sioe Fawr

Mari Llifon
Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'i rôl newydd mae Mari Llifon yn gobeithio cynnal cyfarfodydd arbennig i ferched yn y diwydiant amaeth

GanNia Thomas
BBC Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae llysgennad Sioe Frenhinol 2027 yn dweud ei bod yn gobeithio helpu mynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith menywod yng nghefn gwlad.

Dywedodd Mari Llifon o Ros-goch ger Cemaes, Ynys Môn ei bod yn bwriadu cynnal clybiau i fenywod sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth gan fod bywyd yn "gallu bod yn unig" ar adegau.

"Mae'n bwysig dod â merched sy'n deall profiadau ei gilydd at ei gilydd mewn lle saff - i siarad a chael hwyl," meddai wrth raglen Post Prynhawn.

Dywedodd Mari, sy'n gyn-athrawes, ei bod hefyd yn gobeithio mynd o gwmpas ysgolion i siarad am y sioe a cheisio denu mwy o bobl ifanc i'r digwyddiad.

Dywedodd Mari, sy'n byw ar fferm laeth gyda'i gŵr Gareth a'i meibion Huw a William, fod iechyd meddwl ymhlith y gymuned amaethyddol - a menywod yn benodol - yn rhywbeth y mae hi'n angerddol iawn amdano.

"Mae'n lle unig yng nghefn gwlad ac mae wythnosau yn mynd a 'da chi ddim wedi siarad hefo neb," meddai.

"Mae hi yn gallu bod yn unig i ferched - yn ogystal â'r dynion - a dwi'n gobeithio cynnal clybiau i wragedd fferm a merched sy'n gweithio yn y byd amaeth gael dod at ei gilydd a chael cyfarfod misol.

"Ma' rywun yn cyfarfod merched eraill wrth ollwng y plant yn yr ysgol ac ati, ond dim pobl o'r un cefndir bob tro, felly'r syniad ydi dod â merched tebyg at ei gilydd."

Awgrymodd y byddai'n hoffi rhoi'r cynllun ar waith "yn reit handi ar ôl y sioe".

Mari Llifon a'i theulu
Disgrifiad o’r llun,

Mari yn y Sioe Fawr eleni gyda'i gŵr Gareth a'i meibion Huw a William

Ychwanegodd Mari fod y gwaith o godi arian fel sir nawdd yn mynd yn ei flaen yn dda.

"Mae'n mynd o nerth i nerth.

"'Dan ni'n andros o lwcus o'r criw sydd ar y pwyllgor - pawb yn andros o brysur, pawb yn cynnig helpu, cynnig trefnu digwyddiadau - ac mae gennym ni amrywiaeth o wahanol bethau wedi bod ac ar y calendr.

"'Dan ni yn codi arian ond mae hefyd yn ffordd o ddod â chymuned cefn gwlad at ei gilydd.

"Mae'r elfen gymdeithasol cyn bwysiced â'r elfen codi arian."

Dim ond wedi methu un Sioe Fawr

Esboniodd Mari fod ganddi atgofion melys iawn o ymweld â'r Sioe Fawr yn flynyddol gyda'i rhieni.

"Roedd fy nheulu yn dangos gwartheg Henffordd flynyddoedd 'nôl, a'r atgof cyntaf sydd gen i ydy eistedd ar y bêls yn y sied wartheg yn bwyta beefburger o flaen y gwartheg.

"Dim ond un flwyddyn dwi wedi ei methu sef y flwyddyn wnes i briodi.

"Doedd y gŵr ddim eisiau i mi gael mis mêl a dod i'r sioe," ychwanegodd gyda gwên ar ei hwyneb.

Bellach mae'r teulu i gyd yn mynd i'r sioe ac mae Mari yn falch bod ei phlant hithau yn cael yr un profiadau gwerthfawr ag y cafodd hi yn blentyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.