Cymunedau yn y gorllewin yn 'grac' gyda phroblemau cyflenwad dŵr

Mae pentref Mydroilyn yn un o nifer yn y gorllewin sydd wedi cael trafferthion gyda'u cyflenwadau dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gymunedau yng ngorllewin Cymru wedi cael problemau gyda'u cyflenwadau dŵr yn yr wythnosau diwethaf ar ôl wynebu cyfnod hir o dywydd sych.
Mae trafferthion wedi bod ym mhentrefi fel Llan-arth, Mydroilyn, Pontgarreg ac Efail-wen.
Mae'r defnydd o bibelli dŵr gan gwsmeriaid wedi cael ei wahardd yn yr ardal oherwydd y tywydd sych.
Dywedodd Dŵr Cymru bod y cwmni wedi trwsio 150 o bibelli oedd yn gollwng yn ne a chanolbarth Ceredigion ers dechrau mis Gorffennaf, a bod 12 o danceri ar gael i gefnogi'r cyflenwad dŵr.
Dydd Iau cafodd statws o sychder ei ddatgan ar gyfer hanner gogleddol Cymru yn dilyn wythnosau o dywydd poeth a sych.
Mae hanner isaf y wlad hefyd wedi cael eu newid o statws 'arferol' i statws 'cyfnod hir o dywydd sych'.

Yn ôl Ceindeg Evans o Bontgarreg mae pobl yn "grac" am y problemau dŵr, ac mae'n gwneud bywyd dydd i ddydd yn anodd
Mae Ceindeg Evans yn byw ger pentref Pontgarreg, ac mae hi'n dweud bod trafferthion rheolaidd wedi bod gyda'r cyflenwad lleol ers rhai blynyddoedd.
Fe gollwyd y cyflenwad yn llwyr ddydd Sul 19 Gorffennaf yn ystod y tywydd poeth.
"Fe brynon ni y tŷ yn 2023, ac ers hynny 'se ni'n dweud bod ni'n cael texts yn wythnosol gan Dŵr Cymru i ddweud bod argaeledd y dŵr, a'r cyflenwad yn cael ei droi i ffwrdd.
"Mae fe'n neud bywyd o ddydd i ddydd yn anodd, wrth gwrs.
"Ni methu defnyddio'r tai bach. Ni'n gweithio yn llawn amser a trio cael y ferch i'r ysgol.
"Mae cael cawod yn broblem. Y pethau o ddydd i ddydd sydd yn anodd."
'Fel hyn fydd hi'
Ychwanegodd: "Buon ni heb ddŵr o'r dydd Sul hyd pnawn dydd Mawrth.
"Roedd hynny yn golygu dau ddiwrnod heb ddŵr yn y tywydd twym iawn.
"Roedd e'n annymunol ofnadwy.
"Mae'r pibelli sydd wedi cael eu gosod yn yr ardal eu gosod dan ddaear tua 1956 a heb gael eu hadnewyddu ers hynny.
"Mae yna broblemau achos mae'r peips mor hen.
"Ni'n rhagweld mai fel hyn fydd hi yn y dyfodol os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud am y pibelli.
"Mae pawb yn grac tu hwnt."

Mae'r problemau gyda'r cyflenwadau dŵr wedi cael effaith ar ymwelwyr â maes carafanau Gilfach ym Mlaencelyn ger Llangrannog
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn ymddiheuro i gwsmeriaid yn ardal Pontgarreg a gafodd eu heffeithio gan brif bibell ddŵr yn byrstio fore Sadwrn.
"Cafodd gwaith ei wneud i leihau effaith y digwyddiad ar bedwar eiddo, ac fe gafodd yr holl gyflenwad ei adfer erbyn prynhawn Sul."

Mae'r trafferthion wedi effeithio ar fusnesau lleol hefyd.
Dywedodd Sheila James, sy'n rhedeg maes carafanau Gilfach ym Mlaencelyn ger Llangrannog, bod problemau gyda'r cyflenwad wedi cael effaith ar ymwelwyr.
"Mae'r tywydd wedi bod yn eitha' pleserus, ond os na wes dŵr mae'n eitha' gwael," meddai.
"Y peips yn byrstio a Dŵr Cymru ar ei hôl hi yn trio reparo nhw.
"Mae hi wedi bod yn eitha' serious 'ma.
"Amser does dim dŵr yn dod mas o'r taps, maen nhw yn dechrau pryderu bod dim dŵr i gael paned o goffi a gorfod cario dŵr i fflysho toilets.
"So nhw'n licio pethau fel 'na."

Dywedodd Holly Bull fod yr wyth diwrnod heb ddŵr wedi bod yn "eithaf brawychus"
Mae Holly Bull o Gastellnewydd Emlyn hefyd wedi bod heb ddŵr am wyth diwrnod ar ôl i ddwy brif bibell ddŵr fyrstio'r wythnos diwethaf.
Dywedodd fod y cyfnod wedi bod yn "eithaf brawychus" yn ystod y don wres, yn enwedig gan ei bod hi'n byw gyda'i gŵr a'u dau blentyn ifanc.
"Y prif broblem yw fflysio'r toiledau - roedden ni'n lwcus iawn ein bod ni wedi llenwi pwll padlo bach yr wythnos cyn i hyn ddigwydd, a dyna a'n helpodd ni drwy'r pedwar neu bum diwrnod cyntaf", meddai.
Ychwanegodd fod coginio a glanhau wedi bod yn "amhosib eu rheoli", a bod y teulu wedi gorfod dibynnu ar ddŵr potel a chymorth gan ffrindiau a theulu ers dydd Sadwrn.
Mae Holly a'i gŵr hefyd yn rhedeg bythynnod gwyliau sy'n defnyddio'r un cyflenwad dŵr, a dywedodd fod y toriad wedi cael "effaith ariannol enfawr" ar y busnes.
Er bod Dŵr Cymru wedi dweud y bydd cwsmeriaid yn cael iawndal, dywedodd Holly na fydd hynny'n "talu am golli incwm" na'r amser a'r egni a dreuliwyd yn delio â'r sefyllfa.

Mae Enid Davies yn dweud bod y toriad yn y cyflenwad wedi cael effaith arni gan bod ganddi broblemau meddygol
Mae pentrefi fel Llan-arth a Mydroilyn hefyd wedi gweld trafferthion.
Fe gollwyd y cyflenwad dŵr "am dridie", yn ôl Enid Davies sy'n byw ym Mydroilyn.
Roedd hi'n canmol ymdrechion Dŵr Cymru i ddosbarthu dŵr potel, ond yn dweud bod y sychder wedi cael effaith ar bibelli.
"Maen nhw yn cael ffwdan achos bod sychder wedi bod yn y ddaear.
"Mae'r pridd wedi bod yn mynd bant o'r joints ac yn byrsto.
"Tri diwrnod oedd e. Fe wnaethon nhw eu gorau i ddod â dŵr i ni."
'Fi'n becso'
Mae hi'n dweud bod toriad yn y cyflenwad wedi cael effaith arni gan bod ganddi broblemau meddygol.
"Tipyn o drafferth i fi oherwydd medical issues. A'r oedran falle. A lot o olch yn y peiriant ond dim dŵr ynddo.
"O'dd e'n horrendous.
"Bydd e yn bryder os mae'n cario 'mlaen.
"Mae'r sychder reit lawr. 'Se ni'n cael y glaw nawr mynd dros y top bydd e'n 'neud.
"Fi yn becso. Bydde well da fi fod heb electric."

Gwaith trwsio pibelli dŵr yn ardal Pontgarreg yr wythnos yma
Dywedodd Dŵr Cymru bod problemau wedi bod gyda chyflenwadau yn yr ardal yn sgil y cynnydd sylweddol yn y galw am ddŵr yn ystod y cyfnod estynedig o dywydd sych a phoeth.
"Mae'r cyfnod estynedig o wres hefyd wedi golygu bod y tir wedi caledu a symud wrth iddo sychu, gan arwain at gynnydd mewn achosion o ollyngiadau dŵr a phrif bibelli yn byrstio yng ngorllewin Cymru.
"Mae'r galw rydyn ni wedi ei brofi ar draws yr ardal wedi bod yn ddigynsail.
"Ar ddiwrnod arferol fe fydden ni fel arfer yn cynhyrchu tua 850 megalitr o ddŵr.
"Eleni mae'r galw wedi bod yn uwch na 950 megalitr y dydd am gyfnod estynedig, a dros 1,000 megalitr y dydd am 10 diwrnod yn olynol.
"Rydyn ni wedi cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio pibelli dŵr yn ardaloedd canol a de Ceredigion i geisio mynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw am ddŵr.
"Mae gweithfeydd trin dŵr hefyd wedi bod yn rhedeg ar eu capasiti uchaf - rydyn ni wedi symud dŵr o amgylch y rhwydwaith gan ddefnyddio ein fflyd o danceri a'n timau 24 awr y dydd i drwsio gollyngiadau dŵr ac ymateb i bwysau lleol ar gyflenwadau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
