Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Kierion Lloyd

Kierion LloydFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kierion Lloyd yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni

  • Cyhoeddwyd

'Kierion Gwirion' oedd y ffugenw chwareus gafodd Kierion Lloyd gan ei gyn-diwtor Cymraeg er mwyn helpu pobl yn ei ddosbarth i ddysgu sut i ynganu ei enw.

Mae'n un o bedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos yma i gwrdd â'r ymgeiswyr.

Cafodd Kierion ei eni yng Nghymru i deulu di-Gymraeg, a threuliodd ei blentyndod yn symud yn aml oherwydd gwaith ei dad yn y fyddin.

Ar ôl bod yn dysgu'r iaith ers wyth mlynedd dywedodd ei bod yn "fraint" cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn, a'i fod yn teimlo "ar ben y byd."

'Sbardun' yn Seland Newydd i ddysgu'r iaith

Tra'n byw yn Seland Newydd yn 2010 y daeth y "sbardun" iddo ddysgu Cymraeg.

"O'n i'n siarad efo ffrindiau Māori sydd eisio dysgu dipyn bach o Gymraeg, ac o'n i'n methu.

"O'n i'n teimlo mor siomedig i ddweud na, sorry.

"So oedd sbardun pan o'n i'n byw yn Seland Newydd i ddysgu Cymraeg, i jest cysylltu efo'r wlad, efo'r hanes, efo'r diwylliant."

Kierion Lloyd (ar y dde) gyda ffrind yn Sesiwn Fawr Dolgellau Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kierion yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn ddiweddar, ac mae'n dweud bod dysgu Cymraeg wedi 'agor ei glustiau' i fyd cerddoriaeth

Yn ôl Kierion mae dysgu Cymraeg wedi "agor ei glustiau" i fyd newydd cerddoriaeth, gyda'r iaith meddai yn "damaid o'r jig-so."

"Mae ganddon ni llawer o artists, bands anhygoel efo lleisiau unigryw, a dwi'n teimlo mor falch i allu mynd at y gigs rŵan.

"Os do'n ni ddim yn dysgu Cymraeg, do'n ni ddim yn gwybod am yr Eisteddfodau, am Tafwyl, Sesiwn Fawr, be bynnag.

"So, drwy'r dysgu'r iaith, dwi'n gallu mynd at y digwyddiadau a dwi wedi gwrando cerddoriaeth drwy'r agor fy nghlustiau at y byd hollol newydd.

"Dwi'n hoffi Bwncath fel pawb.

"Dwi newydd dechrau band o'r de o'r enw Dros Dro. Maen nhw'n wych.

"Dwi'n hoffi Ffatri Jam, band roc o'r gogledd.

"Dwi newydd dechrau gwrando ar Ciwb, nes i weld nhw yn Sesiwn Fawr dros y penwythnos.

"Ond hefyd, dwi'n gwrando ar lot o hen bandia.

"Dwi'n ffan mawr o y Bandana, so mi fydda i'n gweld nhw yn yr Eisteddfod.

"Dwi'n hoffi Iwcs a Doyle, so mae gen i amrywiaeth o bandiau dwi'n hoffi, dwi wir yn mwynhau gwrando ar, dwi ddim yn gallu dewis un."

'Dyfalbarhau'

Dywedodd fod dysgu'r iaith yn anodd, ond ei fod yn "chwilfrydig" a "brwdfrydig" am yr iaith.

"Dwi eisiau dysgu'r iaith a gallu deall sgyrsiau a cymryd rhan o'r diwylliant a'r digwyddiadau, so i mi roedd yn bwysig i mi ddysgu a nes i jest dyfalbarhau."

Mae bellach yn hoff o allu rhannu'r iaith pan mae'n teithio i wledydd eraill.

"Es i Slofenia yn ddiweddar ac nes i dysgu sut i ddweud bore da wrthyn nhw, dober dan.

"Ac pan o'n i yna, o'n i'n dweud dober dan, ac wedyn bore da wrthyn nhw bob tro, jest dober dan, bore da.

"Ac oedd dechrau sgwrsiau efo pobl, o dwi'n deall dober dan, be ydi bore da?

"So o'n i'n gallu dweud wrthyn nhw, wel, dwi'n dod o Gymru, dwi'n siarad Cymraeg, dyna'r ffordd 'da ni'n dweud bore da.

"So, dwi wrth fy modd efo'r ieithoedd ac yn siarad iaith fy ngwlad ac os dwi'n gallu rhannu dipyn bach efo pobl eraill, dwi eisio wir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.